Arbenigo mewn systemau a gwefannau deniadol a modern yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog. Gadewch i ni helpu eich busnes sefyll allan ar-lein.
Cysylltwch  NiRydym yn creu gwefannau Cymreig neu ddwyieithog gyda phwyslais ar dri prif elfen: modern, clir, a ymatebol. Fel arfer, defnyddiwm y system rheoli cynnwys (CMS) Wordpress i greu'r gwefannau, gan sicrhau y gallwch chi reoli eich cynnwys yn hawdd yn y dyfodol. Rydym yn cynnig pecynnau gwasanaeth amrywiol i gwmnïau a busnesau o bob maint, ac rydym yma i ddarparu cymorth gyda phob agwedd ar eich gwefan.
Os oes angen gwefan e-commerce sy'n caniatáu i gwsmeriaid brynu eitemau yn hawdd, rydym ni yma i helpu. Bydd Gwefannau.Cymru yn datblygu gwefan Ecommerce sy'n addas i'ch anghenion, a byddwn yn eich helpu i reoli stoc a chynnwys newydd yn y dyfodol, sicrhau y bydd eich gwefan yn parhau'n effeithlon ac yn gysylltiedig â'ch busnes.
Os ydych yn chwilio am wefan sy'n caniatáu i gwsmeriaid ddewis a thalu am wasanaethau neu sesiynau, mae gwefan bwcio yn ffordd berffaith o symleiddio'r broses. Bydd Gwefannau.Cymru yn datblygu gwefan bwcio sy'n gweddu'n berffaith i'ch anghenion, gan sicrhau ei fod yn hawdd i'w defnyddio ac yn effeithlon. Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyda chynnal a chadw'r system a diweddaru'r cynnwys yn rheolaidd.
Ydych chi'n cael trafferth cyrraedd eich chynulleidfa trwy eich busness? Gwefannau.Cymru all helpu i wella eich presenoldeb ar-lein trwy SEO Cymraeg a dwyieithog arbenigol. Byddwn yn sicrhau bod eich gwefan yn cyrraedd y bobl iawn, a hynny'n effeithiol, trwy wella eich safle wrth i bobl wneud search.
Haia, diolch am rhoi eich amser i ddarllen y dudalen yma. Os dydych chi ddim yn siwr be allith Gwefannau.Cymru gynig i'ch busnes, cysylltwch a ni drwy y ffurflen gyswllt ar y waelod y dudalen i gael sgwrs i drafod hyn. Diolch eto a dyma bach o wybodaeth:
Yn ystod fy amser yn y brifysgol, ddatblygais sgiliau technegol cryf a dealltwriaeth ddofn o'r byd ddigidol. Ond nid dim ond y technegol sydd yn bwysig i mi - mae gen i frwdfrydedd mawr dros helpu busnesau lleol Cymru o bob maint i ffynnu yn yr oes ddigidol.
Gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am SEO, dylunio gwefannau, a datblygu meddalwedd, rydw i wedi penderfynu defnyddio fy sgiliau i greu gwefannau a strategaethau ar-lein sy'n gweithio'n effeithiol i fusnesau yng Nghymru.
Yn hytrach na dim ond cynnig gwasanaethau technegol i fusnesau, dwi'n cynnig cyfle i gydweithio yn agos gyda fy nghleientiaid i sicrhau bod eu gwefannau a'u strategaethau ar-lein yn cyrraedd safon uchel iawn. Yr hyn sy'n fy ngwneud i'n wahanol yw fy ymrwymiad i roi'r gwasanaeth gorau bosibl, gan ddefnyddio fy ngwybodaeth a'm mhrofiad i helpu busnesau.